Loading. Please wait.
Accessibility help

Mae rhaglen hyfforddiant ar-lein Place2Be a ddarperir am ddim i ysgolion bellach ar gael yn Gymraeg

Rydyn ni wrth ein bodd bod ein rhaglen hyfforddiant Sylfaen i Bencampwyr Iechyd Meddwl, a ddarperir ar-lein am ddim, bellach ar gael yn Gymraeg.

Read this in English


Mae’r rhaglen yn helpu gweithwyr addysg proffesiynol i ddeall mwy am iechyd meddwl plant, a datblygu’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i nodi anghenion iechyd meddwl mewn ysgolion ac ymateb iddynt.

Ers i ni lansio’r cwrs yn 2020, mae mwy na 70,000 o athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cael mynediad iddo – felly rydyn ni’n falch iawn ein bod yn gallu ei wneud yn fwy hygyrch i staff ysgol yng Nghymru.

Er mwyn parhau â’i rhaglen hirdymor i ddiwygio addysg, a sicrhau bod safonau’n codi ac anghydraddoldebau addysg yn lleihau, nod Llywodraeth Cymru yw ehangu’r gyfran o’r gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae creu gweithlu â sgiliau ieithyddol cryf, sy’n medru ysbrydoli a symbylu’r disgyblion, yn hanfodol er mwyn cyflawni’r targed hwn.

Bydd y fersiwn Gymraeg o’n rhaglen Sylfaen i Bencampwyr Iechyd Meddwl yn gwella ein cefnogaeth ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, yn bodloni anghenion ysgolion Cymraeg yn well ac yn helpu i wella iechyd meddwl plant yng Nghymru.

Fel sefydliad, rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd athrawon a gweithwyr proffesiynol ym mhob rhan o Gymru. Mae cynnig ein hyfforddiant yn Gymraeg yn dangos ein hymrwymiad i wneud hynny ac fel sefydliad, byddwn yn parhau i ddatblygu ein hyfforddiant, ein hadnoddau a chyflwyno ein gwasanaethau yn ddwyieithog fel ein bod ar gael ledled Cymru. Sarah Hooke, Rheolwr Datblygu Busnes, Place2Be

“Mae gallu cael mynediad i’r hyfforddiant yn Gymraeg mor bwysig o ran cynwysoldeb, yn enwedig yng nghyswllt y Cwricwlwm newydd a’n blaenoriaeth genedlaethol i gefnogi’r Gymraeg.”
Pennaeth, Ysgol Uwchradd Pentrehafod

Fel siaradwr Cymraeg, mae’n braf gweld sefydliad yn ymrwymo i ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg. Bydd hyn yn wych i’r miloedd o athrawon Cymraeg iaith gyntaf ledled Cymru. Athro cynradd, Abertawe

Mae’r rhaglen hyfforddiant ar-lein gychwynnol hon ar gael AM DDIM i holl staff ysgolion.

Cewch ddysgu rhagor a rhoi eich enw i lawr heddiw.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am ein gwaith yng Nghymru neu os hoffech drafod unrhyw rai o’n gwasanaethau, cysylltwch â wales@place2be.org.uk gan y byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych.

Cefnogir gwaith Place2Be yng Nghymru trwy haelioni Sefydliad Moondance, Sefydliad Hodge a Chynllun Cam 3 Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yng Nghymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

News & blogs

2 pictures side by side with drawings and writing from children

My Voice Matters: children express what matters to them

Pupils at Grangetown Primary School in Wales took part in some of Place2Be’s Children’s Mental Health Week class activities.

Read more
A female teacher standing at the front of a classroom with students looking at the whiteboard

Place2Be’s free online training programme for schools now available in Welsh

Our free online Mental Health Champions - Foundation training programme for schools is available in Welsh.

Read more
Female counsellor sat on the floor with a child laughing and smiling

The impact of Place2Be’s Family Practitioners: supporting parents and carers in Wales

We sat down with Carrie to learn more about the impact that Family Practitioners can have on the families and communities.

Read more