Mae rhaglen hyfforddiant ar-lein Place2Be a ddarperir am ddim i ysgolion bellach ar gael yn Gymraeg
Rydyn ni wrth ein bodd bod ein rhaglen hyfforddiant Sylfaen i Bencampwyr Iechyd Meddwl, a ddarperir ar-lein am ddim, bellach ar gael yn Gymraeg.

Mae’r rhaglen yn helpu gweithwyr addysg proffesiynol i ddeall mwy am iechyd meddwl plant, a datblygu’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i nodi anghenion iechyd meddwl mewn ysgolion ac ymateb iddynt.
Ers i ni lansio’r cwrs yn 2020, mae mwy na 70,000 o athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cael mynediad iddo – felly rydyn ni’n falch iawn ein bod yn gallu ei wneud yn fwy hygyrch i staff ysgol yng Nghymru.
Er mwyn parhau â’i rhaglen hirdymor i ddiwygio addysg, a sicrhau bod safonau’n codi ac anghydraddoldebau addysg yn lleihau, nod Llywodraeth Cymru yw ehangu’r gyfran o’r gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae creu gweithlu â sgiliau ieithyddol cryf, sy’n medru ysbrydoli a symbylu’r disgyblion, yn hanfodol er mwyn cyflawni’r targed hwn.
Bydd y fersiwn Gymraeg o’n rhaglen Sylfaen i Bencampwyr Iechyd Meddwl yn gwella ein cefnogaeth ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, yn bodloni anghenion ysgolion Cymraeg yn well ac yn helpu i wella iechyd meddwl plant yng Nghymru.
“Mae gallu cael mynediad i’r hyfforddiant yn Gymraeg mor bwysig o ran cynwysoldeb, yn enwedig yng nghyswllt y Cwricwlwm newydd a’n blaenoriaeth genedlaethol i gefnogi’r Gymraeg.”
Pennaeth, Ysgol Uwchradd Pentrehafod
Mae’r rhaglen hyfforddiant ar-lein gychwynnol hon ar gael AM DDIM i holl staff ysgolion.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am ein gwaith yng Nghymru neu os hoffech drafod unrhyw rai o’n gwasanaethau, cysylltwch â wales@place2be.org.uk gan y byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych.
Cefnogir gwaith Place2Be yng Nghymru trwy haelioni Sefydliad Moondance, Sefydliad Hodge a Chynllun Cam 3 Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yng Nghymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.